Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar blant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu

 

Dyddiad:                    22/10/2014

Lleoliad:                     Ystafell Gynadledda 24 – Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cadeirydd:                 Christine Chapman AC

Cynrychiolwyr a oedd yn bresennol:


Ben Ford (Write to Freedom)

Charlie Cable (SOVA)

Chris Powles (Ieuenctid Sir Benfro)

Christine Mathias (Awdurdod lleol Sir Benfro)

Corin Morgan-Armstrong (Carchar Parc)

Danielle Rayner (Rheoli Troseddwyr Integredig)

Elaine Speyer (Cofnodion)

Emma Reed (Gwasanaeth CSOF)

Eve Wilmott (Myfyrwraig gradd Meistr)

Jack Stanley (Swyddfa Peter Hain)

Jo Mulcahy (Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd)

Aelod o staff Jocelyn Davies

Karen Rees(Barnardo's Cymru)

Laura O’Keefe (Canolfan Wirfoddol Caerdydd)

Laura Tranter(Barnardo’s Cymru)

Lindsey Pudge(Barnardo’s Cymru)

Margaret Gardner (FASO)

Nicky Sturgess-Webb (Awdurdod lleol Bro Morgannwg)

Robert Jones (Canolfan Llywodraethiant Cymru)

Robin Lewis (aelod o staff Christine Chapman)

Sam Clutton (Barnardo's Cymru)

Sara Steele (Canolfan Wirfoddol Caerdydd)

Shamshi Ahmed (SOVA)

Sian Thomas (Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau)

Tim Ruscoe(Barnardo's Cymru)

Tony Kirk (Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr)

Trish Woodhouse (Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd)

Vicki Evans (aelod o staff Christine Chapman)

Yvonne Rodgers(Barnardo’s Cymru)

Zoe Lancelott (Addysg Rhondda Cynon Taf)


Ymddiheuriadau:


Gaynor Davies (Rhondda Cynon Taf)

Aled Roberts AC

Jenny Rathbone AC

Jessica Joyce (Myfyrwraig gradd Meistr)

Julie Morgan AC

Suzy Davies AC

Mohammad Asghar AC

Olwen Richards (Awdurdod lleol Ynys Môn)

Paul Lewis (Comisiynydd Plant Cymru)


 

  1. Cyflwyniad a Chroeso

Croesawodd Christine Chapman AC y cynrychiolwyr i'r cyfarfod a nodwyd yr ystadegau mewn perthynas â nifer y plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu yng Nghymru. Amcangyfrifir ei fod yn 200,000. Amcangyfrif hefyd fod 500,000 o ymweliadau â charchardai yn cael eu gwneud gan y plant a'r bobl ifanc hyn bob blwyddyn, sydd gyfwerth â 10,000 yr wythnos, sef poblogaeth 39 o ysgolion cynradd. Mae Carchar Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael 2,000 o ymweliadau gan blant a phobl ifanc bob blwyddyn. Mae'r ymwybyddiaeth o blant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu ac effaith hyn yn gyfyngedig mewn sawl ysgol, ac felly'n aml mae'n parhau i fod yn fater a gaiff ei guddio. Diben y Grŵp Trawsbleidiol yw codi proffil y mater a rhannu arfer da cyfredol.

 

2      Addysg, llesiant a phlant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu

Trafododd Dr. Sam Clutton o Barnardo's Cymru gyd-destun y polisi ac effaith rhieni'n cael eu carcharu ar brofiadau a chanlyniadau addysgol plant a phobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad clir i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac mae hyn yn cynnwys hawl i addysg sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc gyflawni eu potensial. Mae cael rhieni wedi'u carcharu a materion cysylltiedig fel tlodi, yn cael effaith negyddol ar ymgysylltiad a chanlyniadau addysgol y plant hyn. Mae lleihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng plant a phobl ifanc a gwella cyrhaeddiad yn gyffredinol wrth wraidd y polisi addysg cyfredol yng Nghymru. Ceir tystiolaeth glir gan Estyn fod cefnogi llesiant disgyblion yn sicrhau cyrhaeddiad gwell. Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf, er ei fod yn croesawu'r ffocws ar gyrhaeddiad disgyblion, na ddylai hyn fod ar draul disgyblion. Bydd cefnogi llesiant plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu yn eu helpu i sylweddoli eu hawliau i addysg a chyrhaeddiad, a bydd hyn yn ei dro yn helpu i'w diogelu rhag risgiau cynyddol o ymddygiad troseddol wrth iddynt dyfu.

 

3      Cytgord Invisible Walls: Gweithio gydag ysgolion

Trafododd Corin Morgan-Armstrong o Garchar Parc waith y carchar mewn perthynas ag addysg i blant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu, gan gynnwys y Cytgord Invisible Walls. Disgrifiodd sut y gall cael rhiant yn y carchar gael effaith sylweddol ar addysg plant, ac edrychodd ar y gydberthynas rhwng beth sy'n digwydd yn yr ysgol, pobl ifanc yn troseddu ac yn mynd i'r carchar fel oedolyn. Yng Ngharchar Parc mae ffocws wedi bod ar addysg i blant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu sydd wedi cynnwys nosweithiau rhieni, clybiau gwaith cartref, hyfforddiant Dug Caeredin i dadau, grwpiau llythrennedd i rieni ifanc sydd â phroblemau llythrennedd a'u plant a sawl ffordd arall o ymgysylltu â theuluoedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys y teulu cyfan yn dod ynghyd. Mae wedi'i brofi bod hyn yn lleihau cyfraddau aildroseddu ac yn newid y canlyniadau sydd wedi'u rhagderfynu ar gyfer y plant hyn.

 

4      Defnyddio dull Awdurdod Addysg Lleol i gefnogi addysg plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu mewn addysg

Trafododd Zoe Lancelott, Pennaeth Ymgysylltiad a Chyfranogiad awdurdod addysg Rhondda Cynon Taf sut y mae wedi defnyddio dull sy'n cydnabod ac yn cefnogi anghenion plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu ochr yn ochr â grwpiau eraill sy'n agored i niwed. Gan ddefnyddio adnoddau fel Cytgord Invisible Walls a'r Llawlyfr i ysgolion gan Barnardo's Cymru, mae wedi ymgysylltu ag ysgolion ym mhob rhan o'r ardal. Mae wedi cyfleu anghenion y plant hyn i iaith a ddefnyddir gan ysgolion o ddydd i ddydd er mwyn deall yr effaith ar ddysgu disgyblion a'u setiau data. Mae Estyn yn rhoi pwyslais ar lesiant, sydd wedi helpu ysgolion i weld sut y gallent weithio gyda'r grŵp hwn. Mae Rhondda Cynon Taf wedi cynnwys plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu yn ei gynllun gweithredu strategol, yn ogystal â chynlluniau darparu gweithredol y Gwasanaeth Presenoldeb a Llesiant a'r Tîm SEET. Trafododd Zoe yr anawsterau a wynebir wrth ddod o hyd i ddata, a bod ysgolion heb sylweddoli bod plant sy'n cael eu heffeithio gan y materion hyn yn eu hysgolion. Mae'r llawlyfr i ysgolion, sydd wedi'i anfon at bob ysgol yn yr awdurdod addysg lleol wedi helpu gyda hyn. O fis Medi ymlaen, mae ffurflen rhoi gwybod am lesiant wedi'i chyflwyno er mwyn casglu data am grwpiau sy'n agored i niwed a chreu setiau data newydd ar gyfer y broses proffilio grwpiau sy'n agored i niwed. Mae dull Rhondda Cynon Taf o broffilio'r grwpiau hyn yn ffordd o adnabod y rheini sydd mewn perygl o ymddieithrio o ddysgu, sy'n defnyddio data gan sefydliadau addysg, gwasanaethau i blant a'r heddlu ar hyn o bryd. Mae plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu yn un o'r setiau data newydd sy'n cael ei ddatblygu i'w gynnwys yn y broses hon. Bydd yn helpu ysgolion i adnabod y disgyblion hynny sy'n agored i niwed a bod hynny yn cael effaith negyddol ar eu gallu i ddysgu, yn hytrach na chanolbwyntio ar ba mor mor agored i niwed ydynt.

 

5      Llawlyfr Barnardo's Cymru i ysgolion a gwaith Cymorth Cymunedol i Deuluoedd Troseddwyr (CSOF) gydag addysg

Trafododd Emma Reed, gweithiwr prosiect ar gyfer gwasanaeth CSOF Barnardo's Cymru y gwaith y mae Barnardo's Cymru yn ei wneud â phlant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu. Mae gwasanaeth CSOF yn gweithio gyda rheolwyr troseddwyr, ac ar hyn o bryd mae'n gyfrifol am Gwent, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Mae wedi'i ymestyn erbyn hyn i gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot. Mae Barnardo's hefyd yn bartner i Garchar Parc yng ngwasanaeth Invisible Walls Cymru. Mae gan Garchar Parc hefyd ganolfan newydd i ymwelwyr lle bydd staff Barnardo's Cymru yn gweithio. Trafododd Emma hefyd CAPI Talkback, sef cyfres o ddigwyddiadau i blant sy'n defnyddio'r gwasanaeth i fynegi eu barn. Darparodd Emma astudiaeth achos a oedd yn dangos gwerth y gwaith yr oedd gwasanaeth CSOF wedi'i wneud ag un teulu ac ymgysylltu'r plentyn mewn addysg. Mae'r dull wedi helpu i ddileu'r stigma i blant, yn ogystal â sicrhau y gall plant siarad â'r gwasanaeth os bydd angen cyngor neu gymorth arnynt. Rhoddodd Emma enghraifft o ysgol lle cafodd poster o'r pecyn adnoddau ei arddangos, ac o fewn diwrnod i'w roi i fyny, cyrhaeddodd dau blentyn wrth y drws a dweud “dyna dad”. Mae hyfforddiant hefyd yn helpu i ddileu stigma. Mae CSOF wedi datblygu gweithdy i bobl ifanc er mwyn creu empathi ymhlith eu cyfoedion ac mae'n darparu'r gweithdy hwn i ddisgyblion mewn ysgolion.

 

6      Cwestiynau ac atebion

C: Margaret Gardner (FASO): Pa gymorth sydd ar gael i deuluoedd troseddwyr rhywiol?

A: Emma Reed (CSOF Barnardo's): Mae CSOF yn gweithio gyda theuluoedd lle mae aelod o'r teulu yn y carchar am drosedd rywiol. Mae effaith emosiynol a materion fel stigma yn aml hyd yn oed yn fwy yn yr achosion hyn a gall fod angen cymorth ar y partner a'r plant sydd ar ôl yn y gymuned. Byddai asesiadau risg mewn perthynas â phob achos yn ffurfio natur y gwaith a wneir o ran p'un a oedd yn briodol cysylltu ai peidio, ac ati. Yna, darparodd Emma enghraifft o achos pan oedd teulu yn y sefyllfa hon a phan fo CSOF wedi helpu.  

A: Jo Mulcahy (Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd): Mae gan Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd weithiwr teulu yng Ngharchar Brynbuga/Prescoed gyda charcharorion sydd wedi cyflawni troseddau rhywiol. Mae Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd yn gweithio i gefnogi teuluoedd sy'n dioddef gan fod aelod o'r teulu wedi’i garcharu.

A: Corin Morgan-Armstrong (Carchar Parc): Eglurodd Corin ei fod wedi gweithio'n flaenorol yn uniongyrchol â charcharorion sydd wedi cyflawni troseddau rhywiol. Awgrymodd Corin mai carcharorion sydd wedi cyflawni troseddau rhywiol yw'r rhai sydd lleiaf tebygol o gysylltu â'u teuluoedd ar ôl cyflawni'r drosedd ond, pan fo'n bosibl cefnogi teuluoedd mewn ffordd ddiogel, ei bod yn bwysig gwneud hynny gan fod cysylltiadau clir rhwng cynnal cyswllt parhaus â theulu a llai o risg o aildroseddu. Dywedodd Corin fod hwn yn fater emosiynol ond bod angen edrych ar bob achos yn unigol.

 

C: Robert Jones (Canolfan Llywodraethiant Cymru) Pa mor gyson yw'r dull o gefnogi plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu mewn ysgolion ledled Cymru – a yw Rhondda Cynon Taf yn arwain y blaen neu a oes enghraifft debyg yn rhywle arall?

A: Zoe Lancelott (Rhondda Cynon Taf): Mae pob awdurdod addysg lleol yng Nghymru yn gweithio ar fynd i'r afael â llesiant disgyblion ac mae llawer o waith yn cael ei wneud, er bod awdurdodau gwahanol yn datblygu eu ffyrdd eu hunain o gefnogi llesiant disgyblion.

A: Sam Clutton (Barnardo’s Cymru): Mae Rhondda Cynon Taf yn arwain y blaen mewn perthynas â llesiant disgyblion ar gyfer plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu. Dwi ddim yn gwybod am unrhyw ardaloedd eraill sydd wedi cynnwys plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu yn eu strategaeth llesiant disgyblion a'u cynlluniau gweithredu mewn ffordd systematig.

A: Corin (Carchar Parc): Ailadrodd y pwynt gan adlewyrchu ar y ffaith bod yr awdurdodau eraill yr oedd Cytgord Invisible Walls Cymru wedi cysylltu â hwy yn aml yn ymgysylltu ar y mater ond heb gynnwys plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu fel grŵp sy'n agored i niwed yn eu strategaeth yn yr un ffordd â Rhondda Cynon Taf.

 

C: Chris Powles (Ieuenctid Sir Benfro): Sut y caiff y mater o ran cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth ei reoli – a yw'n bosibl i garchardai rannu gwybodaeth yn uniongyrchol ag awdurdodau addysg lleol/ysgolion?

A: Zoe Lancelott (Rhondda Cynon Taf): Mae'r gwaith o broffilio grwpiau sy'n agored i niwed a wneir gan Rhondda Cynon Taf yn cynnwys casglu'r wybodaeth sydd ar gael am blentyn a'i defnyddio i roi gwybod i'r ysgol am angen ychwanegol y plentyn hwnnw (system goleuadau traffig: coch/melyn/gwyrdd). Ni chaiff ysgolion unrhyw wybodaeth gyfrinachol sy'n llywio canlyniadau'r proffiliau o grwpiau sy'n agored i niwed. Rydym yn defnyddio Hysbysiad Preifatrwydd a gyflwynir gan ysgolion i gefnogi'r defnydd o setiau data sy'n nodi: ‘we will share information if it is in the interests of pupil well-being’.  

A: Corin (Carchar Parc): Ni all carchardai rannu gwybodaeth am unigolion gydag ysgolion heb ganiatâd oherwydd deddfwriaeth diogelu data. Fodd bynnag, rhan o amcan gwaith y Cytgord, fel posteri yn gwahodd plant i siarad ag un pwynt cyswllt plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu, oedd y byddai plant yn rhoi gwybod eu hunain.

 

C: Yvonne Rodgers (Barnardo’s Cymru): Mae gan y gwaith proffilio yn Rhondda Cynon Taf, y mae Zoe wedi'i nodi, botensial enfawr, a dylai unrhyw argymhellion a ddaw o'r Grŵp Trawsbleidiol ystyried dosbarthu gwybodaeth am y dull.

A: Zoe Lancelott (Rhondda Cynon Taf): Mae wedi cymryd chwe blynedd i ddatblygu'r system ac mae'n darparu dull newydd - caiff y gwersi eu rhannu drwy rwydweithiau a chonsortia.

 

C: Robin Lewis (aelod o staff cymorth Christine Chapman): Beth yw rôl llywodraethwyr ysgol o ran datblygu'r agenda hon?

A: Corin Morgan-Armstrong (Carchar Parc): Mae'n hanfodol codi ymwybyddiaeth ymhlith llywodraethwyr ysgol a byddwn yn annog y llywodraethwyr i ddod i'r carchar a gweld y gwaith sy'n mynd rhagddo fel y gallant ddeall yn well y problemau sy'n wynebu plant.

A: Zoe Lancelott (Rhondda Cynon Taf): Mae'n rhaid i lywodraethwyr ysgol ddilyn hyfforddiant rheoli data gorfodol. Mae'r gwaith proffilio grwpiau sy'n agored i niwed wedi'i gynnwys yn yr hyfforddiant hwn ac mae hyn hefyd yn darparu ar gyfer codi ymwybyddiaeth o grwpiau sy'n agored i niwed, fel plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu.

A: Emma Reed (CSOF Barnardo's): Mae CSOF yn darparu hyfforddiant i ysgolion, gan gynnwys hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol. Mae amseriad yr hyfforddiant ac argaeledd y rhai a fydd yn dilyn yr hyfforddiant yn broblem ac felly mae'r gwasanaeth wedi dechrau cynnig sesiynau 'cyfnos' hyblyg fel y gall pobl ddilyn yr hyfforddiant ar ôl eu diwrnod gwaith.

 

C: Laura Okeefe (Canolfan Wirfoddol Caerdydd): A oes unrhyw sôn am ddatblygu gweithdy a gaiff ei gyflwyno mewn gwersi ABCh, gan gynnwys IWW i addysgu'r disgyblion eu hunain?

A: Emma Reed (CSOF Barnardo's): Yn CSOF, rydym wedi datblygu gweithdy i ddisgyblion er mwyn gwella empathi a dealltwriaeth, gyda'r nod o ddileu stigma.

 

C: Karen Rees. A oes sôn am ei gynnwys mewn rhaglenni hyfforddi athrawon?

A: Zoe Lancelott (Rhondda Cynon Taf): Mae'n anodd gan fod y rhaglen hyfforddi athrawon eisoes yn llawn – mae cymaint o faterion i'w trafod – ac mae'r un peth yn wir am y cwricwlwm ABCh, ond gall codi ymwybyddiaeth drwy hyfforddiant ac agenda lesiant weithio.

 

C: Jo Mulcahy (Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd): Yng Nghaerffili a Wrecsam mae ganddynt raglen cymorth i fyfyrwyr sy'n cynnwys plant. A yw hynny'n rhywbeth sy'n digwydd yn Rhondda Cynon Taf?

A: Zoe Lancelott (Rhondda Cynon Taf): Dwi ddim yn siŵr ei fod yn rhywbeth yr ydym wedi'i ystyried, ond dwi'n fodlon edrych i mewn i'r peth. Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau a ddaw i law.

A: Emma Reed (CSOF Barnardo's): Rwyf wedi cael hyfforddiant i ddatblygu'r rhaglen hon ac rwy'n ymwybodol y caiff ei defnyddio'n eang yng Nghaerffili, ond na chaiff ei defnyddio cymaint mewn awdurdodau lleol eraill.

 

 

 

 

Daeth Sam Clutton â'r sesiwn i ben drwy wahodd y panel i gyfleu eu prif negeseuon:

 

Corin Morgan-Armstrong (Carchar Parc): Ailadrodd y cyfle i ymweliadau â charchardai weithio'n wahanol, sy'n gyfle pwysig i ymgysylltu ag ysgolion, er bod llawer o waith i'w wneud o hyd. Mae'n deg dweud bod Parc wedi gwneud mwy nag eraill. Ond mae llawer o blant yng Nghymru a Lloegr ble mae plant carcharorion yn mynd iddynt ac mae angen inni barhau i weithio ar ymgysylltu â hwy.

 

Emma Reed (CSOF Barnardo's): Mae llais y teulu mor bwysig; mae angen llawer o fewnbwn a chymorth emosiynol i deulu ymgysylltu ag addysg. Hefyd, mae'r llawlyfr yn adnodd gwych i ysgolion.

 

Zoe Lancelott (Rhondda Cynon Taf): Mae'r Awdurdod Addysg Lleol yn gyfrifol am annog ysgolion i gymryd rhan yn y fframwaith, y gallent o bosibl fod ei ofn i ddechrau. Fodd bynnag, mae'n bosibl i awdurdodau lleol wneud hyn yn ddidrafferth. Mae'n hollbwysig dileu'r stigma sy'n gysylltiedig â'r mater hwn.